Cadw Mewn Cysylltiad
Tra bod eich plentyn yn yr ysbyty hoffem eich sicrhau y gellir parhau â’u cynnydd addysgol gyda ni yn Nant-y-Bryniau. Byddwn yn gweithio gyda'u hysgol neu goleg prif ffrwd i sicrhau ein bod yn darparu gwaith priodol ar y lefel gywir. Os ydynt wedi gadael addysg byddwn yn gweithio i'w cefnogi i barhau i ddysgu ac i nodi a pharatoi ar gyfer y camau nesaf priodol i hyfforddiant neu gyflogaeth.
Yn ystod dyddiau cyntaf eu derbyniad, rydym yn neilltuo tiwtor grŵp i bob myfyriwr a fydd â chyfrifoldeb cyffredinol am brofiad addysgol y person ifanc yn Nant-y-Bryniau. Bydd yr athro hwn yn cysylltu â chi yn y dyddiau cynnar hynny i sefydlu cyswllt, casglu gwybodaeth berthnasol am brofiad addysg blaenorol o'ch safbwynt chi a chytuno ar fodd o gyfathrebu parhaus.
Bob 6 wythnos, fel rhan o’r cylch adolygu iechyd, bydd staff addysg yn creu adroddiad cynnydd a fydd yn cael ei rannu gyda chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ar unrhyw adeg, rydym yn croesawu eich cyswllt. Po fwyaf y gallwn weithio fel tîm effeithiol o amgylch y person ifanc, y gorau fydd y canlyniad.